Katal
Gwedd
| Enghraifft o: | uned weithgaredd catalytig, System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig, uned ddeilliadol UCUM |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04cph |
Un o unedau deilliadol y System Ryngwladol o Unedau yw'r katal (symbol: kat), a fe'i defnyddir i fesur gweithgaredd catalytig, yn enwedig ym meysydd meddygaeth a biocemeg.[1]
Diffiniad
[golygu | golygu cod]Un katal (kat) yw faint o ensym sy'n rhoi cyfradd drawsnewid wedi'i chatalyddu o 1 môl (mol) yr eiliad (s).
Gan fod hon yn uned mor fawr ar gyfer y rhan fwyaf o adweithiau ensymatig, defnyddir y nanokatal (nkat) yn ymarferol.
Yr enw
[golygu | golygu cod]Mae'r enw "katal" wedi cael ei ddefnyddio ers degawdau, er na ddaeth yn uned SI swyddogol tan 1999. Mae'r enw'n deillio o'r Hen Roeg κατάλυσις (katalysis), sy'n golygu "ymddatodiad".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The International System of Units (SI) (Bureau International des Poids et Mesures, Awst 2025); adalwyd 24 Ebrill 2026