Oasis
- Erthygl am y band roc yw hon. Am y dirffurf ('oasis'), gweler gwerddon.
| Enghraifft o: | band roc |
|---|---|
| Label recordio | Creation Records, Epic Records, Columbia Records, Sony Music, Big Brother Recordings, Reprise Records |
| Dod i'r brig | 1991, 2024 |
| Dechrau/Sefydlu | 1991 |
| Genre | roc amgen, roc indie, Britpop, indie pop, cerddoriaeth roc, seicadelia newydd |
| Yn cynnwys | Liam Gallagher, Noel Gallagher, Tony McCarroll, Paul Arthurs, Paul McGuigan, Alan White, Andy Bell, Gem Archer, Chris Sharrock, Scott McLeod |
| Rhagflaenydd | The Rain |
| Enw brodorol | Oasis |
| Gwefan | https://oasisinet.com/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01s560x |
Band roc o Loegr yw Oasis a ffurfiwyd ym Manceinion ym 1991. Ffurfiwyd y grŵp gan Liam Gallagher (prif leisydd), Paul Arthurs (gitâr), Paul McGuigan (gitâr fâs) a Tony McCarroll (drymiau). Yn fuan ar ôl i'r grŵp gael ei ffurfio ymunodd brawd hŷn Liam sef Noel Gallagher (gitâr a lleisydd) â'r band. Mae Oasis wedi gwerthu dros 50 miliwn o recordiau ledled y byd [1] ac maent wedi cael wyth sengl a gyrhaeddodd rif un. Maent wedi ennill 15 Gwobr NME, 5 o Wobrau BRIT a 9 Gwobr Q. Y brodyr Gallagher oedd prif gyfansoddwyr y band a nhw oedd aelodau parhaol y band. Ymunodd y gitarydd Gem Archer a'r gitarydd bâs Andy Bell â'r band ym 1999.
Eu rheolwr ers 1993 yw'r Cymro Marcus Russell o Lynebwy. Cafodd eu halbwm cyntaf ei recordio yn stiwdio Monnow, Sir Fynwy a'r ail albwm yn stiwdio eiconig Rockfield gerllaw.[2]
Yn wreiddiol, daeth y band i'r amlwg tra'n perfformio yng nghlybiau nos Manceinion. Cawsant eu harwyddo i label recordiau annibynnol Creation Records ac yna rhyddhaodd y band eu halbwm cyntaf Definitely Maybe ym 1994. Y flwyddyn ganlynol, recordiodd y band (What's the Story) Morning Glory? (1995) gyda'i drymiwr newydd Alan White, tra'n herio eu cyfoedion Britpop Blur yn y siartiau. Ymddangosodd y brodyr Gallagher yn rheolaidd yn y papurau tabloid yn sgîl eu gwrthdaro brawdol a'u bywydau gwyllt gan greu enw i'w hunain fel bechgyn drwg pop ac fel band y bobl. Ym 1997, â'r band wedi cyrraedd uchafbwynt eu henwogrwydd, rhyddhawyd eu trydydd albwm, Be Here Now (1997). Yr albwm hon werthodd gyflymaf yn hanes y siart Brydeinig. Gwelwyd lleihad ym mhoblogrwydd y band yn yr Unol Daleithiau a chollodd Oasis dau o'i aelodau tymor hir Paul McGuigan a Paul Arthurs yn y cyfnod rhwng recordio a rhyddhau Standing on the Shoulder of Giants (2000) a Heathen Chemistry (2002).

Er gwaethaf recordiad cythryblus, daeth eu chweched albwm Don't Believe the Truth with Zak Starkey (2005), yr albwm a werthodd orau ac a dderbyniwyd orau gan y cyhoedd yn y ddegawd gyfan. Y flwyddyn ganlynol, rhyddhaodd y band albwm o amrywiaeth o ganeuon o'r enw Stop the Clocks. Ym mis Chwefror 2007, derbyniodd Oasis y Wobr BRIT am eu cyfraniad aruthrol i gerddoriaeth. Rhyddhawyd Dig Out Your Soul, eu seithfed albwm stiwdio ar y 6ed o Hydref 2008 gyda'r prif sengl o'r albwm honno'n cael ei rhyddhau ar y 29ain o Fedi 2008. Ar gyfer eu taith 2008, ymunodd Chris Sharrock â'r band. Ar ôl blynyddoedd o ddadlau ac anghytuno chwalodd y band yn ystod 2009 ym Mharis wedi ffrae rhwng Liam a Noel yn yr ystafell newid, a gadawodd Noel.
Ail-ffurfio
[golygu | golygu cod]Yn Awst 2024, cyhoeddwyd y byddai'r band yn ail-ffurfio ar ôl 15 mlynedd, ar gyfer taith o gwmpas Cymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon. Byddai'r daith yn cynnwys perfformiadau yn Nghaerdydd, Manceinion, Llundain, Caeredin a Dulyn.[3] Gwerthwyd y tocynnau i gyd, yn fuan ar ôl mynd ar werth ar ddiwedd mis Awst. Roedd beirniadaeth am y ffaith fod pris y tocynnau wedi dyblu ar wefan Ticketmaster oherwydd y galw.[4]
Cychwynnodd y daith yn Stadiwm y Principality, Caerdydd gyda pherfformiadau ar 4 a 5 Gorffennaf 2025.[5] Tyrrodd miloedd i'r ddinas o bedwar ban byd ar gyfer yr achlysur. Roedd y daith yn parhau yn rhyngwladol gyda dyddiadau yng Nghanada a Brasil.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ilikemusic.com
- ↑ "Oasis a'u cysylltiadau Cymreig". BBC Cymru Fyw. 2025-06-30. Cyrchwyd 2025-07-04.
- ↑ "Y band Oasis yn ail-ffurfio gan gyhoeddi cyngherddau yng Nghaerdydd". newyddion.s4c.cymru. 2025-07-04. Cyrchwyd 2025-07-04.
- ↑ "Oasis: Llywodraeth y DU i graffu ar gwmnïau sy'n codi prisiau tocynnau". newyddion.s4c.cymru. 2025-07-04. Cyrchwyd 2025-07-04.
- ↑ "Oasis yn denu tyrfa o bedwar ban byd i Gaerdydd". newyddion.s4c.cymru. 2025-07-04. Cyrchwyd 2025-07-04.
- ↑ "Oasis yn swyno Caerdydd - gig gyntaf y band ers 16 mlynedd". BBC Cymru Fyw. 2025-07-04. Cyrchwyd 2025-07-04.
