Flat white
| Enghraifft o: | diod |
|---|---|
| Math | diod coffi |
| Gwlad | Awstralia, Seland Newydd |
| Yn cynnwys | espresso, microfoam |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/087bpd |

Mae flat white (Cymraeg: weithiau cyfieithir yn coffi gwyn fflat neu coffi melfed gwyn[1]) yn ddiod coffi sydd wedi ei seilio ar espresso ac yn amrywiad o'r cappuccino. Gan bod gan y ddiod wyneb esmwyth, cyson, mae'n aml wedi'i haddurno â phatrymau neu delweddau syml a elwir yn chelf latte.
Gwreiddiau
[golygu | golygu cod]

Bathwyd yr enw i yn Awstralia a Seland Newydd yn yr 1980au.[2] Ceir ymgipris rhwng y ddwy wlad dros ba un ddyfeisiodd y ddiod gyntaf. Mae cyfeiriad at "flat white coffee" yn y ffilm Brydeinig o 1962, Danger by My Side, er nad yw'n glir bod hyn yn cyfeirio at y ddiod fodern.[3] Ym mhennod 123 o opera sebon Awstralaidd, The Young Doctors mae cymeriad yn gofyn am "two flat white" yn y bwyty Bunny’s Place - wedi’i osod yn Sydney, ffilmiwy /darlledwyd hwn ym 1976/1977. Mae'r cyfeiriadau cynharaf wedi'u dogfennu at y diod modern yn dyddio'n ôl i Awstralia yng nghanol yr 1980au. Cyfeiriodd adolygiad o gaffi yn Sydney, 'Miller's Treat' ym mis Mai 1983 at eu "flat white coffee".[4]
Hawliau Seland Newydd] mai yno y datblygwyd y ddiod.[5][6] Lleoliad hawl y wlad i'r ddiod yw diod yw caffe yn ninas Auckland, lle hawliau Derek Townsend a Darrell Ahlers o Cafe DKD, iddo fod yn eilydd ddiod i'r Caffè latte,[7] ac mae ail hawliad i'r ddiod ddod o ddinas Wellington fel enghraiff o "failed cappuccino" yn 'Bar Bodega' ar Willis St yn 1989.[5]
Yn draddodiadol mae'r ddiod yn cael ei gweini mewn mwg ceramig bach 150-160 ml. Defnyddir microfoam: mae'r ewyn llaeth o ben y cynhwysydd stemio yn cael ei daflu neu ei gadw yn y cynhwysydd tra bod y llaeth hufennog o waelod y cynhwysydd yn cael ei dywallt i'r coffi, gan roi'r gwead llyfn nodweddiadol hwnnw.[8] Yn draddodiadol mae gwyn gwastad yn ymgorffori celf latte (darluniau o ddail neu galon ar ewin y coffi).
Dywedodd un sylwebydd, Felipe Cisneros perchennog, Traviesa Coffee in Quito, Ecuador bod y "Caffè latte yw gwerthwr gorau diod espresso yn siopau coffi ail don; Flat White, gwerthwr diod espresso gorau yn y siopau trydydd don" o ffasiwn neu ddatblygiad yfed coffis espresso yn fyd-eang.[9]
Dull
[golygu | golygu cod]Gweinir y Coffi Melfed mewn cwpan cappuccino ac mae'n cynnwys ristretto doppio a llaeth ffrio wedi'i falu'n fân. Tra bod llawer o aer yn cael ei ychwanegu at y llaeth ar gyfer paratoi cappuccino pan fydd yn cael ei gynhesu ("llaeth awyredig iawn" [10]), dim ond gyda Flat White ("llaeth wedi ei awyru cyn lleied â phosibl" y mae'r llaeth yn cael ei ledaenu.[10] ), fel bod cysondeb y llaeth bron yn runny. Yn ogystal, dim ond haen denau iawn o ewyn sydd gan wyn gwastad a dim "cap ewyn llaeth" fel y gwelir yn aml ar gappuccino.[10]
Poblogaidd
[golygu | golygu cod]Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gwyn gwastad hefyd wedi lledu yn Ewrop. Er enghraifft, mae'r ddiod yn cael ei chynrychioli mewn tua 100 o gaffis Llundain, ac ers 2010 mae hefyd wedi bod ar y fwydlen yng nghanghennau cadwyni siopau coffi Starbucks a Costa Coffee ym Mhrydain Fawr.[11] Mae'r ddiod hefyd yn dod yn fwyfwy eang ym mhrif ddinasoedd yr Almaen. Yn 2018, lansiodd Nescafé yr amrywiaeth Flat White ar gyfer system Dolce Gusto am y tro cyntaf, ac mae Jacobs Douwe Egberts hefyd wedi bod yn gwerthu’r amrywiaeth Flat White ar gyfer system Tassimo ers 2019.
Flat White a Chymru
[golygu | golygu cod]Ceid awgrym am enw Cymraeg i'r Flat White, sef, Coffi Melfed Gwyn,[12] sydd yn cydfynd â sawl disgrifiad yn y Saesneg o wead a natur yr ewin llaeth a ychwanegir at yr espresso yn y ddiod.[13]
Cafwyd ymateb fawr i drydaria yn 2021 oedd yn cynnwys ffoto o ddiodlen mewn caffe Gymreig gydag enwau Cymraeg am wahanol fathau o ddiodydd coffi. Yn eu mysg oedd cynnig am enw Cymraeg i'r Flat White, sef, "Coffi cryf drwy lefrith" sy'n fwy o ddisgrifiad nag enw.[14]
Cymaint yw apêl Coffi Melfed fel y defnyddir fel abwyd i ddenu ymwelwyr i Gymru gan Croeso Cymru efallai gyda'r awgrym bod y Flat White yn ddiod dinesig a soffistigedig er mwyn creu delwedd mwy gyfoes o Gymru i ymwelwyr postib i'r wlad. Gwelwyd dudalen ar wefan Croeso Cymru gyda'r pennawd, "Where to drink coffee in Cardiff" ac yna is-bennawd, "Find the perfect flat white Cardiff loves coffee, a fact that’s celebrated in Wales’ capital with a growing number of independent, homegrown coffee shops and roasteries." [15] Ceir hefyd brolio gan gwmnïau rhostio a macsi coffi Cymreig ei bod yn gallu rhagori ar greu Flat White da, er enghraifft cadwyn caffes Coffi Co a ddechreuodd yng Nghaerdydd [16] a Coaltown Coffee o Rydaman.[17]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://twitter.com/rhisiartcrowe/status/1027976895579779073
- ↑ Michael Symons (2007) (yn German), One continuous picnic: a gastronomic history of Australia, Melbourne University Publishing, pp. 366, ISBN 978-0522853230
- ↑ "Danger by My Side". BFI. Cyrchwyd 22 Mawrth 2021.
The scene appears at 26:50
- ↑ by Liz Doyle and Brett Wright, (Sydney Morning Herald);
- ↑ 5.0 5.1 Hunt, Tom (13 Ionawr 2015). "Kiwi claims flat white invention". The Dominion Post. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
- ↑ Robertson, James (27 Medi 2015). "Australia and New Zealand culinary war in new front over flat white inventor". goodfood.com.au. Cyrchwyd 27 Medi 2015.
- ↑ Macdonald, Laura (13 January 2015). "Baristas battle to claim flat white as their own". The New Zealand Herald. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2015. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
- ↑ Dixon, Greg (29 Ionawr 2013). "The birth of the cool". New Zealand Herald. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2008.
- ↑ https://perfectdailygrind.com/2018/11/what-is-a-flat-white-how-is-it-different-from-a-latte/
- ↑ 10.0 10.1 10.2 Scott Rao (2008) (yn German), The Professional Barista's Handbook: An Expert Guide to Preparing Espresso, Coffee, and Tea, pp. 47-48, ISBN 978-1605300986
- ↑ Jeffrey Young a Christine Shanahan, The London Coffee Guide 2011 (Allegra Strategies, 2010)
- ↑ https://twitter.com/rhisiartcrowe/status/1027976895579779073
- ↑ https://www.peterjthomson.com/coffee/tag/flat-white/
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-16. Cyrchwyd 2021-11-16.
- ↑ https://www.visitwales.com/things-do/food-and-drink/find-perfect-flat-white-cardiff
- ↑ https://coffico.uk/
- ↑ https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-south-west-wales-44113371