Getxo
Gwedd
| Math | bwrdeistref Sbaen |
|---|---|
| Prifddinas | Algorta |
| Poblogaeth | 75,752 |
| Pennaeth llywodraeth | Amaia Agirre Muñoa |
| Gefeilldref/i | Angelu |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bizkaia |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 11.89 km² |
| Uwch y môr | 50 ±1 metr |
| Gerllaw | Môr Cantabria |
| Yn ffinio gyda | Sopela, Berango, Erandio, Leioa, Portugalete |
| Cyfesurynnau | 43.3442°N 3.0064°W |
| Cod post | 48990 - 48991 - 48992 - 48993 - 48930 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Getxo |
| Pennaeth y Llywodraeth | Amaia Agirre Muñoa |
![]() | |

Tref yn nhalaith Bizkaia yng nghymuned ymreolaethol Gwlad y Basg yw Getxo. Saif ar ochr dde yr aber a ffurfir gan Afon Ibaizabal ac Afon Nerbioi. Mae'n rhan o ardal ddinesig Bilbo (Bilboaldea), 14 km o ddinas Bilbo ei hun. Roedd y boblogaeth yn 81,746 yn 2007.
Yn 2001, roedd 19.9% o'r boblogaeth yn medru Basgeg yn dda (o'i gymharu a dim ond 9% yn 1981), 31.5% yn medru rhywfaint o Fasgeg a 48.56% heb fedru dim.
Mae Getxo yn nodedig am Bont Bizkaia sy'n cysylltu Las Arenas, rhan o Getxo, a Portugalete yr ochr arall i'r aber. Hon yw'r enghraifft gyntaf yn y byd o bont gludo. Enwyd y bont fel Safle Treftadaeth y Byd yn 2006
Enw
[golygu | golygu cod]Getxo yw'r enw Fasgeg ac unig enw swyddogol y dref. Cyn 1989, defnyddiwyd y sillafiad Guecho yn Sbaeneg.

Pobl enwog o Getxo
[golygu | golygu cod]- Jose Antonio Aguirre, gwleidydd, Lehendakari cyntaf Llywodraeth Gwlad y Basg
