Poitiers
Gwedd
| Math | cymuned, dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 89,916 |
| Pennaeth llywodraeth | Alain Claeys, Léonore Moncond'huy |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | arrondissement Poitiers, canton of Poitiers-6, canton of Poitiers-7, Vienne |
| Gwlad | Ffrainc |
| Arwynebedd | 42.11 km² |
| Uwch y môr | 75 metr, 65 metr, 144 metr, 112 metr |
| Gerllaw | Clain, Boivre |
| Yn ffinio gyda | Biard, Bignoux, Buxerolles, Croutelle, Fontaine-le-Comte, Ligugé, Mignaloux-Beauvoir, Migné-Auxances, Montamisé, Saint-Benoît, Sèvres-Anxaumont, Vouneuil-sous-Biard |
| Cyfesurynnau | 46.5811°N 0.3353°E |
| Cod post | 86000 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Poitiers |
| Pennaeth y Llywodraeth | Alain Claeys, Léonore Moncond'huy |
![]() | |

Dinas a commune ar Afon Clain yng ngorllewin canolbarth Ffrainc yw Poitiers. Hi yw prif ddinas département Vienne yn région Nouvelle-Aquitaine.
Saif Poitiers ar y Seuil du Poitou, tir isel rhwng Massif Armorica a'r Massif Central. Sefydlwyd y dref gan lwyth y Pictones dan yr enw Limonum. Ar ôl y cyfnod Rhufeinig, daeth yn eiddo'r Fisigothiaid, yna'r Ffranciaid.
Ymladdwyd Brwydr Tours, a elwir hefyd yn Frwydr Poitiers, gerllaw Poitiers ar 10 Hydref, 732. Gorchfygodd Siarl Martel fyddin Islamaidd. Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, ymladdwyd Brwydr Poitiers yma yn 1356. Sefydlwyd Prifysgol Poitiers yn 1431.
Roedd yn boblogaeth yn 2006 yn 90,000.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Diane de Poitiers, Duges Valentinois (1499-1566)
- Michel Foucault (1926-1984)
- Joël Robuchon (1945-2018)
- Jean-Pierre Thiollet (1956-)
- Brian Joubert (1984-)
