Neidio i'r cynnwys

Walwneg

Oddi ar Wicipedia

Iaith Romáwns o'r continwwm langues d'oïl yw Walwneg a siaredir yn ardal Walonia yn ne Gwlad Belg, mewn ambell pentref yng ngogledd Ffrainc, ac yn hanesyddol yng ngogledd-ddwyrain Wisconsin, UDA. Hon yw iaith frodorol y Walwniaid, sydd hefyd yn siarad tafodieithoedd Ffrangeg.

Llenyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Yng nghanol y 12g, ysgrifennwyd croniclau lleol a dramâu crefyddol yn Walwneg. Yn ddiweddarach, cyfansoddwyd caneuon, dramâu a libretos yn yr iaith. Sefydlwyd y Société Liègeoise de Littérature Wallonne yn 1856 i hyrwyddo llenyddiaeth Walwneg. Cafodd sillafu a gramadeg yr iaith Walwneg eu safoni gan ysgolheigion yn yr 20g, gan greu ffurf lenyddol fodern ar Walwneg.

Image Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.