Dona
| Dona | |
|---|---|
| Ganwyd | 6 g Cymru |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | mynach |
| Cysylltir gyda | Llanddona |
| Dydd gŵyl | 1 Tachwedd |
| Tad | Selyf ap Cynan |
Sant o Gymru oedd Dona (g. 580). Ceir Dwna fel amrywiad ar ei enw a'i enw llawn oedd Dona ap Selyf.[1] Mae ei ddydd gŵyl ar 1 Tachwedd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd Dona yn un o feibion Selyf ap Cynan Garwyn ('Selyf Sarffgadau'), mab Cynan Garwyn, o deulu brenhinol Powys. Ar ôl cyfnod fel mynach ym Mangor yn Arfon, aeth i fyw fel meudwy yng nghongl de-ddwyreiniol Môn.[1]
Eglwys a thraddodiadau
[golygu | golygu cod]Cysegrir Eglwys Llanddona ar Ynys Môn iddo. Dywedir fod yr eglwys wreiddiol yma yn dyddio o tua 610. Ail-adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1873. Yn yr eglwys mae cloch yn dyddio o 1647 a chwpan cymun arian yn dyddio o 1769, ond gyda chaead o 1574.[1]
Hefyd yn ardal Llanddona ceir carreg naturiol yn ardal Mynydd Crafgoed a elwir yn Gadair Dona. Ceir Craig Dona ger Tref-y-clawdd, Maesyfed, a dywedir yr arferai pobl fynd i yfed o'r ffynnon iachusol yno.[1]
Llefydd cysylltiedig
[golygu | golygu cod]Rhestr Wicidata:
| # | Eglwys neu Gymuned | Delwedd | Cyfesurynnau | Lleoliad | Wicidata |
|---|---|---|---|---|---|
| 1 | Eglwys Sant Dona | 53°18′18″N 4°08′27″W / 53.305121°N 4.140838°W | Llanddona | Q7592976 | |
| 2 | Llanddona | 53°17′49″N 4°07′59″W / 53.296906°N 4.133044°W | Ynys Môn | Q3402690 |

