Ga
| Mae yna wybodaeth gwerthfawr yn yr erthygl hon – diolch am eich cyfraniad! Ond i gyrraedd safon arferol, derbyniol Wicipedia, gellir mynd yr ail gam. Os na chaiff yr erthygl ei gwella'n ddigonol ymhen wythnos neu ddwy wedi 6 Gorffennaf 2026, fe all gael ei dileu. Os caiff yr erthygl ei gwella'n sylweddol, wedyn mae croeso i chi dynnu'r neges hon oddi ar y dudalen. Ceir rhestr o erthyglau sydd angen eu gwella yma. Sut mae ei gwella? Dyma restr o hanfodion pob erthygl; beth am dreulio ychydig o amser yn mynd drwyddynt? Gweler hefyd ein canllawiau Arddull ac Amlygrwydd. |
Iaith yw Ga sy'n cael ei siarad yn Ghana, yn y brif ddinas Accra a'r cyffiniau. Pobl o grŵp ethnig y Ga sy'n ei siarad, ac mae'n rhan o deulu'r ieithoedd Kwa. Mae yna rai siaradwyr yn Togo, Benin a gorllewin Nigeria hefyd. Mae hi'n gwahaniaethu'n seinegol rhwng tair math o lafariaid o ran hyd.
Dosbarthiad
[golygu | golygu cod]Mae Ga yn iaith Kwa, sy'n gangen o Ieithoedd Niger-Congo. Mae hi'n perthyn yn agos i'r iaith Adangme, a'r ddwy iaith gyda'i gilydd yw'r gangen Ga-Dangme o fewn Kwa.
Ga yw prif iaith y bobl Ga, grŵp ethnig o Ghana. Mae cyfenwau teuluol Ga yn cynnwys Owoo, Lartley, Lomo, Nortey, Aryee, Lamptey, Tetteh, Ankrah, Tetteyfio a Laryea.
Dosbarthiad daearyddol
[golygu | golygu cod]Mae Ga yn cael ei siarad yn ne-ddwyrain Ghana, yn Accra a'r cyffiniau. Does dim llawer o amrywiaeth o ran tafodieithoedd. Er mai Saesneg yw iaith swyddogol Ghana, mae Ga yn un o'r 16 iaith mae'r Bureau of Ghana Languages yn cyhoeddi deunydd ynddi.
Ffonoleg
[golygu | golygu cod]Cytseiniaid
[golygu | golygu cod]Mae gan Ga 31 ffonem cytseiniol.
| Gwefusol | Deintiol | Ôl-orfannol a thaflodol |
Felar | Gwefusol-felar | Glotal | |||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Plaen | Labialeiddiedig | Plaen | Lab.v | Plaen | Lab. | |||||||||||
| Trwynol | m | n | ɲ | ŋ | ŋ͡m | |||||||||||
| Ffrwydrol | p | b | t | d | tʃ | dʒ | tʃʷ | dʒʷ | k | ɡ | kʷ | ɡʷ | k͡p | ɡ͡b | ||
| Ffrithiol | f | v | s | z | ʃ | ʃʷ | h | hʷ | ||||||||
| Cytsain ddynesol | l | j | ɥ | w | ||||||||||||
- Un o aloffonau /w/ yw [ŋʷ], ond fe'i cynrychiolir â deugraff wrth ysgrifennu.
- Gellir cynhyrchu /l/ fel [ɹ] pan ddaw rhwng llafariad a chytsain
- Un o aloffonau /j/ yw [ɲ] cyn llafariaid trwynol
Llafariaid
[golygu | golygu cod]| Blaen | Canolog | Yn ôl | ||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| llafar | trwynol | llafar | trwynol | llafar | trwynol | |
| Cau | i | ĩ | u | ũ | ||
| Canol-agos | e | o | ||||
| Agored-canol | ɛ | ɛ̃ | ɔ | ɔ̃ | ||
| Agor | a | ã | ||||
Tonau
[golygu | golygu cod]Mae gan Ga ddau dôn, uchel ac isel. Fel llawer o ieithoedd Gorllewin Affrica, mae ganddi derasu tôn.
Ffonotacteg
[golygu | golygu cod]Strwythur sillafau Ga yw (C)(C)V(C), lle dim ond /l/ all ail ffonem clwstwr cytseiniaid cychwynnol fod. a gall cytsain derfynol fod yn gytsain drwynol (byr neu hir) yn unig, er enghraifft ekome, "un", V-CV-CV; kakadaŋŋ, "hir", CV-CV-CVC; mli, "y tu mewn", CCV. Gall sillafau Ga hefyd gynnwys trwynol sillafog yn unig, er enghraifft yn sillaf gyntaf ŋshɔ, "môr".
System ysgrifennu
[golygu | golygu cod]
Wyddor yr iaith Ga yw:
Aa, Bb, Dd, Ee, Ɛɛ, Ff, Gg, Hh, Ii, Jj, Kk, Ll, Mm, Nn, Ŋŋ, Oo, Ɔɔ, Pp, Rr, Ss, Tt, Uu, Vv, Ww, Yy, Zz
Mae'r llythrennau canlynol yn cynrychioli'r synau sydd ddim yn cyfateb â'r un llythyren â'r symbol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol.
- J j - /d͡ʒ/
- Y y - /j/
Deugraffau a thrigraffau:
- Gb gb - /ɡ͡b/
- Gw gw - /ɡʷ/
- Hw hw - /hʷ/
- Jw jw - /d͡ʒʷ/
- Kp kp - /k͡p/
- Kw kw - /kʷ/
- Ny ny - /ɲ/
- Ŋm ŋm - /ŋ͡m/
- Ŋw ŋw - [ŋʷ] (aloffon yn hytrach na ffonem)
- Sh sh - /ʃ/
- Ts ts - /t͡ʃ/
- Shw shw - /ʃʷ/
- Tsw tsw - /t͡ʃʷ/