Y sgript Ladin
| Enghraifft o: | system ysgrifennu |
|---|---|
| Math | alphabetic writing system |
| Dechrau/Sefydlu | c. 7 g CC |
| Lleoliad | Yr Eidal |
| Yn cynnwys | Latin-script letter |
| Rhagflaenydd | Old Italic |
| Dynodwyr | |
| Thesawrws y BNCF | 8569 |
- Am yr wyddor Ladin a ddefnyddiwyd yn wreiddiol gan y Rhufeiniaid hynafol i ysgrifennu Lladin, gweler yr wyddor Ladin.
Y sgript Ladin, neu'r Sgript Rufeinig yw system fwyaf cyffredin yn y byd heddiw. Mae'n system ysgrifennu sy'n seiliedig ar lythrennau'r wyddor Ladin glasurol, sy'n deillio o ffurf ar yr wyddor Roeg (a elwid yr wyddor Gumeaidd) a ddefnyddiwyd yn ninas Groegaidd hynafol Cumae ym Magna Graecia a datblygwyd hi i ffurfio'r wyddor Etrwscaidd. Mabwysiadodd y Rhufeiniaid 21 o'r 26 llythyren Etrwscaidd i ysgrifennu Lladin.
Yn ystod yr Oesoedd Canol, addaswyd hi i'w defnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o ieithoedd gorllewin Ewrop, a rhai ieithoedd yn nwyrain Ewrop, er enghraifft rhai ieithoedd Slafig.
Mae rhai ieithoedd wedi newid o wyddorau eraill i'r wyddor Ladin. Newidiodd Romaneg o'r wyddor Gyrilig i'r wyddor Ladin yn y 18g. Fe newidiodd Twrceg o'r wyddor Arabeg i'r wyddor Ladin yn 1928 ac mae Hausa wedi newid hefyd.
Amrywia'r defnydd o'r llythrennau yn yr wyddor Ladin o un iaith i'r llall. Ceir 28 o lythrennau yn yr wyddor Gymraeg (29 os cynnwys J), rhai ohonynt fel Ch neu Ll lle defnyddir dau symbol i gynrychioli un sain.

Yr wyddor elfennol
[golygu | golygu cod]| Gwyddor Ladin wreiddiol Teyrnas Rhufain | ||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| A | B | C | D | E | F | Z | H | I | K | L | M | N | O | P | Q | R | S | T | V | X |
| Gwyddor Ladin Yr Ymerodraeth Rufeinig | ||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| A | B | C | D | E | F | G | H | I | K | L | M | N | O | P | Q | R | S | T | V | X | Y | Z |
| Yr wyddor Ladin elfennol gyfoes | |||||||||||||||||||||||||
| Aa | Bb | Cc | Dd | Ee | Ff | Gg | Hh | Ii | Jj | Kk | Ll | Mm | Nn | Oo | Pp | Rr | Ss | Tt | Uu | Vv | Ww | Xx | Yy | Zz | |