Jim Morrison
Gwedd
| Jim Morrison | |
|---|---|
| Ganwyd | 8 Rhagfyr 1943 Melbourne |
| Bu farw | 3 Gorffennaf 1971 4ydd arrondissement Paris |
| Label recordio | Elektra Records, Columbia Records |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | canwr, cyfarwyddwr, canwr-gyfansoddwr, awdur geiriau, cyfansoddwr, actor, bardd, canwr, cerddor roc, cerddor |
| Arddull | cerddoriaeth roc, roc seicedelig |
| Math o lais | bariton |
| Prif ddylanwad | Elvis Presley |
| Mudiad | psychedelia |
| Tad | George Stephen Morrison |
| Priod | Pamela Courson |
| Partner | Pamela Courson |
| llofnod | |
Canwr, cyfansoddwr, bardd, ysgrifennwr o'r Unol Daleithiau oedd James Douglas "Jim" Morrison (8 Rhagfyr 1943 – 3 Gorffennaf 1971). Roedd yn fwyaf adnabyddus fel prif leisydd y band The Doors a chaiff ei ystyried gan nifer fel un o gantorion mwyaf carismatig yn hanes cerddoriaeth roc.[1] . Roedd hefyd yn awdur ar sawl cyfrol o farddoniaeth ac yn gyfarwyddwr ffilm ddogfen a ffilm fer. Er fod Morrison yn enwog am ei lais bariton, mae nifer o'i gefnogwyr, ysgolheigion a newyddiadurwyr wedi cymharu ei bersonoliaeth llwyfan theatraidd, ei ffordd hunan-ddinistriol o fyw a'i waith i fywyd bardd. Ar restr y cylchgrawn Rolling Stone o'r "100 Canwr Gorau Erioed", cafodd ei roi ar safle 47.
Bu farw yn sydyn ym Mharis, yn 27 oed.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "See e.g., Morrison poem backs climate plea", BBC News, 31 Ionawr, 2007.
- ↑ Angela Doland; Verena von Derschau (11 Tachwedd 2007). "New questions about Jim Morrison's death". USA Today (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Tachwedd 2012.