Neidio i'r cynnwys

Pictor

Oddi ar Wicipedia
Pictor
Image
Enghraifft o:cytser Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1756 Edit this on Wikidata
Rhan ohemisffer wybrennol y de Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01f17j edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Pictor. "Pictor" yw'r gair Lladin am "baentiwr". Fe'i henwyd yn "Le Chevalet et la Palette" ("yr îsl a phalet") yn 1756 gan y seryddwr o Ffrancwr Nicolas Louis de Lacaille. Yn ddiweddarach newidiodd Lacaille yr enw i'r ymadrodd Lladin, Equuleus Pictorius ("îsl y paentiwr"), enw a fyrhawyd yn "Pictor" gan Francis Baily yn 1845.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Image
Map yn dangos maint y sêr yn Pictor

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Pictor", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 23 Mawrth 2025